GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION
Tachwedd 2025
|
YMWELIADAU Â CHYMRU |
|
|
24 Tachwedd
26 Tachwedd
|
Ymweliad â Chymru gan Gynrychiolydd Cyffredinol Wallonia-Brwsel Ymwelodd y cynrychiolydd cyffredinol â Chymru ar gyfer Wythnos Tech Cymru a chynnal cyfres o gyfarfodydd. Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r cynrychiolydd cyffredinol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i drafod ôl-osod tai.
Ymweliad â Chymru gan Lysgennad Ffrainc i'r DU Ymwelodd Llysgennad Ffrainc i'r DU â Chymru i ginio i dros 80 o westeion yng Nghastell Caerdydd. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn cyd-gynnal a siarad yn y digwyddiad. Y diwrnod canlynol, aeth y Llysgennad gyda'r Prif Weinidog ar ymweliad â Thales yng Nglynebwy, lle cynhaliwyd cyfarfod dwyochrog ar amrywiaeth o faterion domestig a rhyngwladol.
|
|
YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL |
|
|
13 Tachwedd
14 Tachwedd
|
Ymweliad y Gweinidog Diwylliant â'r Swistir a Liechtenstein Teithiodd y Gweinidog Diwylliant i'r Swistir i ddigwyddiad Canmlwyddiant Richard Burton i goffáu etifeddiaeth Richard Burton, gan gynnwys dadorchuddio plac treftadaeth yn ei hen gartref. Yna teithiodd y Gweinidog ymlaen i Liechtenstein ar gyfer gemau rhagbrofol cwpan y byd Cymru.
Derbyniad y Dirprwy Brif Weinidog gyda'r Corfflu Diplomyddol Cynhaliodd y Dirprwy Brif Weinidog dderbyniad i'r Corfflu Diplomyddol yn Llundain i hyrwyddo Cymru a'r Uwchgynhadledd Fuddsoddi.
|